Forgotten your password?
Applications for this position have now closed. Take a look at the Jobs Board for current live vacancies.
Or sign up for FREE job alerts, and get the latest matching jobs straight to your inbox.
Disgrifiad o'r PecynAr gyfer y swydd yma: Mae sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn hanfodolHyd y cytundeb - 12 MisBand - DLleoliad - Bae CaerdyddMae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.Cyflwyniad i'r SwyddGyda dros 350 awr o allbwn mewnol y flwyddyn, mae BBC Studios yn cynhyrchu rhai o'r rhaglenni teledu mwyaf gwreiddiol, amrywiol ac uchel eu parch. Mae'r rhain yn amrywio o gyfresi drama parhaus fel Pobol y Cwm, Casualty, Doctors, Holby City ac EastEnders i gyfresi a storïau cyfres dydd fel Father Brown a Shakespeare & Hathaway, i enwi ond ychydig!Pobol y Cwm yw opera sebon hynaf y BBC ac mae'n cynhyrchu 250 o benodau bob blwyddyn.Prif gyfrifoldeb y swydd hon yw creu, ar y cyd â Chynhyrchydd y Gyfres, y weledigaeth olygyddol ar gyfer Pobol y Cwm.Cyfrifoldeb y RôlBydd disgwyl i chi reoli proses storïo'r gyfres a rheoli, arwain ac ysbrydoli'r awduron a'r tîm golygyddol.O dan reolaeth Cynhyrchydd y Gyfres, byddwch yn gyfrifol am sicrhau y caiff y weledigaeth olygyddol ei chynnal yn y storïau a'r sgriptiau (ar y cyd gyda Chynhyrchydd Sgript y Gyfres).Ar y cyd â Chynhyrchydd y Gyfres, bydd angen i chi gymeradwyo pob stori - gan gynnwys storïau gwadd a gynigir i'r gyfres gan awduron, a chreu cymeriadau rheolaidd newydd ar gyfer y rhaglen.Yr Ymgeisydd DelfrydolBydd gan ein hymgeisydd delfrydol y gallu i reoli, arwain ac ysbrydoli tîm creadigol a'r gallu i greu syniadau creadigol ar gyfer storïau.Byddwch yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol er mwyn meithrin a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol gydag amrywiaeth eang o gysylltiadau, ac er mwyn sicrhau bod pawb yn derbyn yr holl wybodaeth ymarferol a chreadigol angenrheidiol.Mae'r gallu i reoli pobl a pherfformiad ac ymdrin â sefyllfaoedd anodd yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i ddangos doethineb a sensitifrwydd wrth ddelio ag awduron, aelodau o'r adran olygyddol ac ystod eang o gysylltiadau eraill.
The employer () has requested that you apply for this job directly via their website.
To open the application page, please click below.
Your Graduate Membership allows you to apply for all entry-level and junior roles. To apply for more senior positions, you'll need to switch to our Standard Membership.
There's no cost to switch membership today, but you'll pay the new amount next time your membership renews. Click below, then checkout via your payment provider to instantly switch your membership.
It’s not possible to upgrade during your free trial period. Once your free trial has ended, you’ll be able to switch membership.
Upgrade to get the media player now