Assistant Content Producer
Cardiff
Horizons is delivered by BBC Wales in partnership with Arts Council of Wales to develop new, independent contemporary music in Wales. The aim is to support and promote emerging Welsh music talent to new and wider audiences.
This Assistant Content Producer role will be part of the team delivering Horizons, working with a music strategy to promote unsigned artists - setting up and researching meetings with network specialist radio shows, and companies outside the BBC - either with large music corporations or smaller independent organisations, labels, venues, festivals and key musical hubs. You will deliver video content for digital platforms and maintain digital communication channels, including social media and websites.
Cynllun gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru yw Gorwelion i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru. Nod y cynllun yw cefnogi a hyrwyddo talentau cerddorol newydd yng Nghymru i gynulleidfaoedd newydd ac ehangach.
Bydd y Cynhyrchydd Cynnwys Cynorthwyol yn aelod o'r tîm sy'n gyfrifol am Gorwelion. Bydd yn gweithio gyda strategaeth gerddoriaeth i hyrwyddo artistiaid nad oes ganddynt gontract - gan drefnu ac ymchwilio i gyfarfodydd â sioeau radio arbenigol y rhwydwaith, a chwmnïau y tu allan i'r BBC - naill ai â chwmnïau cerddoriaeth mawr neu sefydliadau annibynnol llai, labeli, lleoliadau, gwyliau a chanolfannau cerddoriaeth pwysig. Byddwch yn darparu cynnwys fideo ar gyfer llwyfannau digidol ac yn cynnal sianeli cyfathrebu digidol, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwefannau.
Are you the right candidate?
We're looking for someone who is passionate about new music and about championing Welsh music. You'll have experience of producing and broadcasting at live events and be able to demonstrate your production experience of marketing, radio or online campaigns. You'll have the ability to collaborate with various stakeholders and have a good knowledge of the music industry and of digital platforms. Experience of dealing with producers, managers, booking agents, record companies and artists would be helpful but isn't essential. The role will involve weekend working and unsociable hours.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n frwdfrydig ynghylch cerddoriaeth newydd ac ynghylch hyrwyddo cerddoriaeth Cymru. Bydd gennych brofiad o gynhyrchu a darlledu mewn digwyddiadau byw, a byddwch yn gallu dangos bod gennych chi brofiad cynhyrchu yng nghyswllt marchnata ac ymgyrchoedd radio neu ar-lein. Byddwch yn gallu cydweithio â gwahanol randdeiliaid a bydd gennych wybodaeth dda am y diwydiant cerddoriaeth ac am lwyfannau digidol. Byddai profiad o ddelio â chynhyrchwyr, rheolwyr, asiantwyr archebu, cwmnïau recordio ac artistiaid yn ddefnyddiol, ond nid yw hyn yn hanfodol. Bydd gofyn gweithio ar benwythnosau ac oriau anghymdeithasol ar gyfer y swydd hon.